15

Lon Y Gwyddau

Dilyna Lôn y Gwyddau linell ddwyreiniol yr hen fur tref, nawr wedi'i guddio gan adeiladau, ond gwelwch ran yn ymwthio allan ar y gornel dde-ddwyreiniol.

Daw'r enw o'r ffaith bod gwyddau'n arfer cael eu gyrru lawr i'r Comins lle cynhaliwyd ffeiriau anifeiliaid byw.